Mae Oldham yn dref fawr, amrywiol, sydd â hanes diwydiannol balch. Mae wedi’i lleoli yn ardal Manceinion Fwyaf ynghanol y Penwynion a rhwng afonydd Irk a Medlock. Mae gan Oldham lawer o adeiladau hanesyddol a digonedd o fannau gwyrdd, ac mae chwarter y fwrdeistref ym Mharc Cenedlaethol y Peak District.
Ein tri phrif uchelgais
- Cysoni ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi
- Hybu’r economi leol trwy greu swyddi da a mentrau cymdeithasol
- Cryfhau ysbryd cymunedol a balchder dinesig
Ein gweledigaeth
Mae Oldham yn brysur ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn trwy gysylltu pobl a chyfleoedd ar gyfer newid gydol oes a chreu naratif cadarnhaol i’n tref o amgylch amrywiaeth a mannau gwyrdd. Rydym yn anelu at Oldham sydd ag ysbryd cymunedol cryfach, swyddi da a mentrau cymdeithasol, a’r gymuned yn dod at ei gilydd mewn ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi.
Sut y byddwn yn gwneud hyn?
Bydd cydgynhyrchu a datblygu sgiliau systemau wrth graidd ein holl ymdrechion.
Pwy yr ydym
Mae grŵp craidd Oldham yn cynnwys pobl yn y sector gwirfoddol, y cyngor lleol a’r GIG.
Ar beth rydym yn gweithio
- Recriwtio cydlynydd rhwydweithiau newid cymdeithasol i ddatblygu’r rhwydweithiau o amgylch ein tair thema, adeiladu perthnasoedd a chynhyrchu arloesi
- Buddsoddi mewn pobl yn ein rhwydweithiau i gael y capasiti i fod yn arweinwyr ym mhob un o’n themâu
- Cysylltu’r dotiau ac adeiladu perthnasoedd rhwng gwahanol sefydliadau